Home > Uncategorized > Peidiwch bod ofn, mae Eden yn ôl

Peidiwch bod ofn, mae Eden yn ôl

Eden yn diddanu ar lwyfan Noson yng Nghwmni

Mae Eden, grŵp pop blaenllaw y 90au – symudwch yn nes yma – wedi ailymuno i greu raglen arbennig, gan nodi 15 mlynedd ers y sengl anfarwol Paid â bod ofn.

Mewn rhaglen arbennig wedi ei chynhyrchu gan gwmni teledu Boomerang yng Nghaerdydd, bydd Emma Walford, Non Parry a Rachael Solomon yn perfformio naw cân yn fyw, gydag ambell sgetsh gomedi yn y canol.

Bydd Noson yn Nghwmni Eden yn cael ei ddarlledu ar S4C cyn y Nadolig, ac mae’r grŵp wedi bod yn gweithio gyda choreograffwr dros yr wythnosau diwethaf, i berffeithio’r symudiadau.

“Mae wedi bod yn gyfle gwych i ailfyw’r cyfnod, gyda’r nostalgia’n llifo,” dywedodd Emma Walford, sydd bellach yn gyflwynwraig teledu. “Nid stopio wnaethon ni, jyst cael hoe fach (a phlant ar yr un pryd!)”

Read More
eden creates a personal haven on the page
Welsh language plays help Cymraeg
Cardiff character: Jill Evans MEP