Sgiliau Sylfaenol Newyddiadurol dal yn bwysig – Radio Academi

Posted by: Sali Collins

Unwaith y flwyddyn mae arweinwyr, rheolwyr  a chynrychiolwyr y byd radio yn cyfarfod yn Salford i drin a thrafod dyfodol y diwydiant, i rwydweithio ac i wrando ar arbenigwyr y maes..

Eleni , fel yr arfer, roedd llwyth o enwau mawr wedi ymgynnull yn y Lowry Theatre gyferbyn â stiwdios MediaCity UK yn Salford Quays.

Dros y tridiau fe glywodd y cynadleddwyr gan bob math o westai gwadd gan gynnwys Iggy Pop, Guy Garvey, rheolwyr BBC Radio 1,2 a 5, Richard Curtis, Ed Vaisey,  Kirsty Young a Mel Grieg y DJ o Awstalia a wnaeth y galwad pranc i ysbyty Kate Middleton.

Felly roedd na dipyn i gnoi cul dros gyfnod y gynhadledd.

Roeddwn i yn gyfrifol am sesiwn gyda gohebydd dramor y BBC Lyse Doucet sy’ wedi treulio bron i 30 mlynedd yn gohebu o’r Dwyrain Canol.  Roedd clywed am ei phrofiadau a’i hagwedd tuag at beryglon gohebu o fannau mwyaf peryglus y byd yn ysbrydoliaeth.

Fel darlithydd newyddiaduraeth roedd un sesiwn yn arbennig wedi dal fy sylw sef, The Changing Faces of News. Panel o’r BBC, Trinity Mirror a sylfaenwraig yr Huffington Post ym Mhrydain.

Yn ystod y sesiwn eang yma fe drafodwyd sut mae newidiadau mawr yn y ffordd rydym  yn derbyn , darllen a defnyddio newyddion erbyn hyn.  Ond roedd gair o gyngor pwysig i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr sef  pwysigrwydd dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol newyddiadurol.

Mae’r gallu i ddarganfod stori, i ofyn cwestiynau , i checio os yw stori’n wir a’r gallu i ysgrifennu neu adrodd stori afaelgar yr un mor bwysig i ddarpar gyflogwyr a oedden nhw hanner canrif yn ôl.  Wrth feddwl am yr holl sesiynau dros y tridiau, o Lyce Doucet yn gohebu o fannau mwyaf anghysbell y byd i beth sy’n mynd o’i le pan fod safonau golygyddol yn slipio – fel yn yr achos Mel Greig o Awstralia mae rhaid cofio’r pethau sylfaenol.

 

Mae’r gallu i gyfathebu gyda’r gynulleidfa mewn modd  dealladwy, credadwy a gafaelgar  efallai yn yr oes ddigidol hyd yn oed yn fwy pwysig nag oedd e erioed.