Students in the news room

Posted by Sian Morgan Lloyd

Last week we highlighted opportunities for you to use Welsh in your studies, including choosing modules taught in collaboration with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Find out about the experience of three Cardiff students who experienced life at the heart of a real-life newsroom, working with Radio Cymru as part of their studies.

Abbie Bolitho, Anna Griffin and Elin Lloyd are students in the School of Welsh, who also study the ‘Yr Ystafell Newyddion’ (The News Room) Welsh modules in the School of Journalism, Media and Cultural Studies.

When deciding on the topic for her radio package, Abbie  chose a topic that as a Welsh learner is close to her heart – learning Welsh as a second language.

Abbie said: “It was good to learn how to use the technology, and to make editorial decisions. The best thing was hearing the package live on air and receiving positive feedback on my work!”

Student in a radio room
Elin Lloyd

In a brave and personal package Elin highlighted the lack of Welsh language care for people like her brother Gwion, who has Down’s Syndrome. He is blind and finds it difficult to communicate – especially in English.

Elin said: “Whilst I was preparing the package, BBC Cymru Fyw asked me to write an article on the situation. That meant that I gained experience of writing stories in addition to broadcasting on the radio.”

Anna Griffin is considering returning to Cardiff for a postgraduate course in broadcast journalism, and as she is concerned about the fees, she decided to report on postgraduate funding opportunities.

Anna said: “It was an unbelievable experience and helped me to gain industry experience and hopefully will lead to more opportunities in the future.”

Sian Morgan Lloyd who leads the Welsh-language provision in the School of Journalism, Media and Cultural Studies said: “The relationship between the School and industry is key to ensuring meaningful experiences like this for students.

“The week was a perfect example of challenging, relevant and successful work experience.”

Find out more about studying with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Profiad bythgofiadwy’ i fyfyrwyr JOMEC Cymraeg

Ar ôl cael eu hysbrydoli gan fodiwlau cyfrwng Cymraeg JOMEC ‘Yr Ystafell Newyddion’ mae gan Abbie Bolitho, Anna Griffin ac Elin Lloyd dân yn eu boliau i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth.

Fis diwethaf cafodd y dair myfyrwraig gyfle arbennig i fod yn ohebwyr wrth gamu i ‘stafell newyddion go iawn , i ferw adran newyddion Radio Cymru.

Roedden nhw’n gyfarwydd â rhaglenni Radio Cymru yn barod, ar ôl gwneud nifer o gyfweliadau yn ystod eu hamser yn astudio’r modiwlau Cymraeg ac hefyd o Faes yr Eisteddfod tra’n gweithio i wasanaeth ‘Llais y Maes’.

Mae ‘Llais y Maes’ yn un o brosiectau Prifysgol Caerdydd sydd yn helpu pobl ifanc i adeiladu sgiliau newyddiadurol, digidol, cyfoes. Wedi torchi llawes ar y Maes am wythnos gyfan fe ddaeth cyfle unigryw i’r dair yma greu pecyn eu hunain i raglen ‘Y Post Cyntaf’ ar BBC Radio Cymru.

‘Heriol’

Gwnaeth Abbie Bolitho ddewis pwnc sydd yn agos at ei chalon fel testun ei phecyn hi, sef Cymraeg fel ail iaith.

“Un peth heriol oedd ceisio trefnu cyfweliad gyda’r Weinidog dros y Gymraeg, Alun Davies. Roedd rhaid imi fynd trwy swyddfa’r wasg ac roeddwn yn nerfus iawn!” meddai.

Student Abbie Bolitho ina radio studio
Abbie Bolitho

Serch hynny, fe lwyddodd Abbie, sydd o Dreharris ger Merthyr ac wedi dysgu Cymraeg, gael cyfweliad gydag Alun Davies AC. Cafodd ei gwaith cryn dipyn o sylw ar y diwrnod darlledu gan gynnwys eitem ar raglen Garry Owen, ‘Taro’r Post’.

“Roedd hi’n dda dysgu sut i ddefnyddio’r dechnoleg, a gwneud penderfyniadau golygyddol” meddai Abbie, “a’r peth gorau oedd clywed y pecyn yn mynd mas ar yr awyr a derbyn ymateb positif i fy ngwaith!”

Hanes ei brawd anabl oedd dewis Elin Lloyd o Gaerdydd wrth benderfynu beth oedd yn bwysig iddi hi. Mewn pecyn personol, dewr wnaeth Elin dynnu sylw at brinder gofal Cymraeg i bobl fel ei brawd, Gwion, sydd â Syndrom Down. Mae yn ddall ac yn ei ffeindio hi’n anodd i gyfathrebu – yn enwedig drwy gyfrwng y Saesneg.

“Tra’r oeddwn wrthi yn paratoi’r pecyn, fe ofynnodd BBC Cymru Fyw i mi ysgrifennu erthygl am y sefyllfa. Felly cefais y profiad o ysgrifennu stori yn ogystal â darlledu ar y radio” meddai Elin, wnaeth hefyd siarad yn fyw ar raglen ‘Taro’r Post’ am sefyllfa’r teulu.

Buddsoddi yn y Gymraeg

Myfyrwyr yr Ysgol Gymraeg yw Abbie, Elin ac Anna. Ers i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fuddsoddi mewn darlithwyr Cymraeg, mae modd i fyfyrwyr gwneud modiwlau Cymraeg mewn pynciau eraill, megis ‘Yr Ystafell Newyddion’ yn JOMEC.

Ar ôl astudio’r modiwlau mae Anna Griffin o Gasnewydd yn ystyried dychwelyd i JOMEC i wneud ôl-radd mewn Darlledu, ond mae’n poeni am y ffioedd. Dyma felly, oedd pwnc ei hadroddiad i’r gwananaeth cenedlaethol.

Dywedodd Anna: “Rydw i wedi mynd yn ôl yn barod i gyfrannu at raglenni radio felly roedd y profiad yn anhygoel er mwyn fy helpu cael mwy o brofiadau yn y diwydiant a gobeithio arwain at fwy o gyfleoedd yn y dyfodol.”

Cydweithio mewn ffordd arloesol

Y newyddiadurwraig Sian Morgan Lloyd sydd yn arwain y ddarpariaeth Gymraeg yn JOMEC. Dywedodd hi: “Mae’r berthynas rhwng yr Ysgol a’r diwydiant yn allweddol er mwyn sicrhau profiadau ystyrlon fel hyn i fyfyrwyr.

 

“Roedd yn wych bod Radio Cymru yn barod i gydweithio mewn ffordd arloesol wrth roi sylw i faterion sydd yn bwysig i bobl ifanc, ac am roi’r cyfle iddyn nhw ohebu.

“Roedd yr wythnos yma yn enghraifft o brofiad gwaith heriol, perthnasol a llwyddianus iawn.”

Meddai cyflwynydd Taro’r Post, Garry Owen: “Roedd hi’n braf gweld brydfrydedd y myfyrwyr wrth baratoi adroddiadau, a hefyd eu sgiliau wrth ddatblygu straeon gwreiddiol mewn ffordd aeddfed a phroffesiynol.”

Dywedodd Stephen Hughes, Golygydd Newyddion Cynorthwyol Radio Cymru: “Fe ddatblygoedd y criw straeon difyr, gan weithio ar becynnau radio creadigol. Fe gafodd eu heitemau sylw ar y Post Cyntaf, yn ogystal a gwasanaethau newyddion eraill y BBC. Roeddem fel adran yn falch o roi profiad, a datblygu sgiliau newyddiadurwyr y dyfodol.”

Magu hyder

Mae Elin Lloyd bellach yn ei thrydedd flwyddyn ac yn dal i astudio newyddiaduraeth yn ogystal â’i gradd Gymraeg.

Meddai Elin: “Rydw i yn ddiolchgar iawn i’r Coleg Cymraeg ac i Jomec Cymraeg am y cyfle arbennig hwn. Teimlaf fy mod wedi magu llawer iawn o hyder trwy’r profiadau hyn.”

Ychwanegodd Anna Griffin sydd wedi graddio a nawr yn gweithio fel newyddiadurwr cymunedol :“Roedd profiad gwaith gyda BBC Radio Cymru yn wythnos arbennig a bythgofiadwy. Y peth mwyaf cofiadwy i mi oedd gwrando ar 5 munud o fy ngwaith ar BBC Radio Cymru ac yn teimlo’n mor falch!”