Ydych chi’n deffro i newyddion Gymreig?

Posted by: Sian Powell

Bore ddoe wrth adolygu’r papurau newydd ar raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru cefais fy atgoffa unwaith eto pa mor bryderus yw sefyllfa’r wasg yng Nghymru a pha mor bwysig yw sicrhau bod rhaglenni tebyg yn adolygu’r papurau newydd o safbwynt Cymru, er mwyn sicrhau bod cyfle i’r gwrandawyr glywed y straeon o bersbectif Cymreig. 

Mae’n bosib mai’r stori byddai’n cael y mwyaf o effaith arnom ni yma yng Nghymru oedd y stori ynglŷn â’r toriadau i gyllid Awdurdodau Lleol yng Nghymru.  Mae Awdurdodau Lleol yn wynebu toriad o £150 miliwn neu 3.4% o’u cyllid, bydd hyn yn cael effaith anferth ar y gwasanaethau sydd ar gael i’r cyhoedd. Ond heb edrych yn y Western Mail byddai llawer o bobl ddim yn ymwybodol o hyn.

Felly, heb ddarllen y Western Mail neu wrando ar Radio Cymru neu Radio Wales bore ddoe, mae’n debygol bod trigolion Cymru wedi methu’r holl newyddion sydd wir yn cael effaith ar eu bywydau o ddydd i ddydd.  Y realiti sy’n ein hwynebu ni yng Nghymru yw bod mwyafrif helaeth y bobl yn cael eu newyddion drwy brism y Deyrnas Gyfunol. Maen nhw’n darllen papurau newydd y Deyrnas Gyfunol ac yn gwylio newyddion y Deyrnas Gyfunol.

Ond, sut mae datrys hyn? Sut mae cychwyn lleihau’r bwlch rhwng y newyddion sy’n ein cyrraedd a’r polisïau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru ac yn effeithio ar Gymru a’i thrigolion?

Yn wahanol i Gymru, mae gan yr Alban fersiynau eu hunain o bapurau newydd Prydeinig sydd yn rhoi lle i straeon ynglŷn â’r Alban ac yn rhoi gogwydd Albanaidd.  Oherwydd hyn, mae democratiaeth yn iachach yn yr Alban sy’n rhoi cyfle i’r straeon cael eu trafod gan y cyhoedd.   Fel gwelsom yn ystod yr wythnosau cyn y Refferendwm ym mis Medi mae ymwybyddiaeth pobl o’r achosion a pholisïau hynny sy’n cael effaith ar eu bywydau llawer cryfach nag ymwybyddiaeth etholwyr Cymru.

Mewn cyfnod lle mae gwleidyddion yn trafod trosglwyddo mwy o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae’n sicr bod angen mwy o gyfle i drafod newyddion o Gymru.